Neidio i'r cynnwys

Swffïaeth

Oddi ar Wicipedia
Swffïaeth
Beddrod Abdul Qadir Gilani, Baghdad, Irac
Enghraifft o:mudiad crefyddol, way of life, ffordd o fyw, enwad crefyddol Edit this on Wikidata
Mathobedience in Islam, Islamic activity Edit this on Wikidata
Rhan oworship in Islam Edit this on Wikidata
Cysylltir gydarahma, love for God in Islam Edit this on Wikidata
Olynwyd ganwasil Edit this on Wikidata
LleoliadY Byd Mwslemaidd, ledled y byd, world Edit this on Wikidata
Prif bwncḏikr, duʿāʾ, Sabr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysWird, Warid, ḥāl, maqām, Lataif-e-sitta Edit this on Wikidata
Gweithredwrṣūfī Edit this on Wikidata
SylfaenyddMuhammad Edit this on Wikidata
Enw brodorolالتَّصَوُّفُ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/06_wx edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF29807 edit this on wikidata
QuoraTasavvuf-2 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Agwedd gyfriniol o Islam yw Swffïaeth neu taṣawwuf (Arabeg: تصوّف‎) sy'n canolbwyntio ar ysbrydolrwydd Islamaidd, defodaeth, asgetigiaeth ac esoterigiaeth.[1][2][3][4] Gelwir dilynwr y traddodiad hwn yn ṣūfī (صُوفِيّ). Gelwir Swffïaeth yn aml yn enwad Islamaidd, ond mae'n gywirach i'w disgrifio fel dimensiwn neu agwedd o'r crefydd.[5]

Fe'i diffiniwyd fel "cyfriniaeth Islamaidd",[6][7] "mynegiant cyfriniol o'r ffydd Islamaidd", "dimensiwn mewnol Islam",[8][9] "ffenomen o gyfriniaeth o fewn Islam",[10] y "prif amlygiad a'r crisialu pwysicaf a mwyaf canolog" o arferion cyfriniol yn Islam,[11]

Daeth Swffïaeth i'r amlwg yn gynnar yn hanes Islam, yn rhannol fel adwaith yn erbyn bydolrwydd Califfiaeth Umayyad cynnar (661–750),[12] a chwaraeodd Swffïaeth ran bwysig yn hanes Islam trwy eu gweithgareddau cenhadol ac addysgol.

Er gwaethaf dirywiad cymharol Swffïaeth yn y cyfnod modern, mae wedi parhau i chwarae rhan bwysig yn y byd Islamaidd, ac mae hefyd wedi dylanwadu ar wahanol fathau o ysbrydolrwydd yn y Gorllewin.[13][14]

Diffiniadau

[golygu | golygu cod]

Mae'r gair Arabeg tasawwuf (yn llythrennol: bod neu ddod yn Swffi), a gyfieithir yn gyffredinol i'r Gymraeg fel 'Swffïaeth', yn cael ei ddiffinio'n gyffredin gan awduron y Gorllewin fel 'cyfriniaeth Islamaidd'. Mae'r term Arabeg sufi wedi cael ei ddefnyddio mewn llenyddiaeth Islamaidd gydag ystod eang o ystyron, gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr Swffïaeth.[15] Roedd testunau Clasurol Swffïaeth, a bwysleisiodd ddysgeidiaeth ac arferion penodol y Corân a'r sunnah (dysgeidiaeth ac arferion enghreifftiol y proffwyd Islamaidd Muhammad), yn rhoi diffiniadau o tasawwuf a ddisgrifiodd nodau moesol ac ysbrydol ac a oedd yn gweithredu fel offer add. . Yn lle hynny, defnyddiwyd llawer o dermau eraill a oedd yn disgrifio rhinweddau a rolau ysbrydl mewn cyd-destunau mwy ymarfero. [15]

Mae rhai ysgolheigion modern wedi defnyddio diffiniadau eraill o Swffïaeth, megis "dwysáu ffydd ac ymarfer Islamaidd" a "phroses o wireddu delfrydau moesegol ac ysbrydol".

Cyflwynwyd y term Swffïaeth (Sufism) yn wreiddiol i ieithoedd Ewropeaidd yn y 18g gan ysgolheigion Dwyreiniol, a oedd yn ei weld yn bennaf fel athrawiaeth ddeallusol a thraddodiad llenyddol a oedd yn groes i'r hyn a welent fel undduwiaeth Islam. Mewn defnydd ysgolheigaidd modern mae'r term yn disgrifio ystod eang o ffenomenau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol sy'n gysylltiedig â Swffïaeth.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Ymddengys mai ystyr gwreiddiol sufi oedd "un sy'n gwisgo gwlân (ṣūf)", ac mae'r Gwyddoniadur Islam yn diystyru rhagdybiaethau etymolegol eraill. Yn draddodiadol, cysylltid dillad gwlân ag asgetigau a chyfrinwyr. Gwrthododd Al-Qushayri ac Ibn Khaldun bob posibilrwydd heblaw ṣūf ar sail ieithyddol.

Gellir cymharu hyn gyda'r enwau 'y Brodyr Duon' a'r 'Brodyr Llwydion', sef mynachod yng Nghymru a gwledydd eraill a elwid ar ôl lliw'r gwlân a wisgant.

Mae esboniad arall yn olrhain yr enw i'r gair ṣafā (صفاء), sydd yn Arabeg yn golygu "purdeb". Cyfunwyd y ddau esboniad gan y Sufi al-Rudhabari (m. 322 AH), a ddywedodd, " Y Swffi yw yr hwn sy'n gwisgo gwlan ar ben purdeb."[16][17]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Babou, Cheikh Anta (2007). "Sufism and Religious Brotherhoods in Senegal". The International Journal of African Historical Studies 40 (1): 184.
  • Chittick, William (2007). Sufism: A Beginner's Guide. Oneworld Publications.
  • Chodkiewicz, Michel (1995). The Spiritual Writings of Amir ʿAbd al-Kader. SUNY Press.
  • Chopra, R.M. (2016). SUFISM (Origin, Growth, Eclipse, Resurgence). New Delhi: Anuradha Prakashan.
  • Ernst, Carl W. (2010). "Muḥammad as the Pole of Existence". In Brockopp, Jonathan E. (gol.). The Cambridge Companion to Muhammad. Cambridge University Press. tt. 123–138.
  • Fitzpatrick, Coeli; Walker, Hani (2014). Muhammad in History, Thought, and Culture. ABC-Clio.
  • Gamard, Ibrahim (2004). Rumi and Islam: Selections from His Stories, Poems, and Discourses, Annotated & Explained. SkyLight Paths Publishing.
  • Glassé, Cyril (2008). The New Encyclopedia of Islam. Rowman & Littlefield Publishers.
  • Guénon, René (2001). Insights Into Islamic Esoterism and Taoism. Sophia Perennis.
  • Mbacké, Khadim; Hunwick, John O. (2005). Sufism and Religious Brotherhoods in Senegal. Markus Wiener Publishers.
  • Rahimi, Sadeq (September 2007). "Intimate Exteriority: Sufi Space as Sanctuary for Injured Subjectivities in Turkey". Journal of Religion and Health (Springer) 46 (3): 409–421. doi:10.1007/s10943-006-9073-2. JSTOR 27513026. https://archive.org/details/sim_journal-of-religion-and-health_2007-09_46_3/page/409.
  • Schimmel, Annemarie (2013). Mystical Dimension of Islam. Noura Books.
  • Schmidle, Nicholas (December 2008). "Pakistan's Sufis Preach Faith and Ecstasy". Smithsonian Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2009.
  • Sells, Michael (1996). Early Islamic Mysticism: Sufi, Qurʼan, Miraj, Poetic and Theological Writings. Paulist Press.
  • Shah, Idries (1964–2014). The Sufis. ISF Publishing.
  • Shah, Idries (1970). The Way of the Sufi. E.P. Dutton.
  • Zarrabi-Zadeh, Saeed (2016). Practical Mysticism in Islam and Christianity: A Comparative Study of Jalal al-Din Rumi and Meister Eckhart. Routledge Sufi Series. Routledge.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Anjum, Tanvir (2006). "Sufism in History and its Relationship with Power". Islamic Studies 45 (2): 221–268. ISSN 0578-8072. JSTOR 20839016. https://www.jstor.org/stable/20839016.
  2. ↑ Sebottendorff, Baron Rudolf von (2013). Secret Practices of the Sufi Freemasons: The Islamic Teachings at the Heart of Alchemy. Simon and Schuster.
  3. ↑ Nuh Ha Mim Keller, "How would you respond to the claim that Sufism is Bid'a?", 1995. Fatwa accessible at: Masud.co.uk
  4. ↑ Zubair Fattani, "The meaning of Tasawwuf", Islamic Academy. Islamicacademy.org
  5. ↑ (Saesneg) Islam: Sufism. BBC. Adalwyd ar 5 Mawrth 2013.
  6. ↑ Milani, Milad (2012). "The Cultural Products of Global Sufism". In Cusack, Carol; Norman, Alex (gol.). Handbook of New Religions and Cultural Production. Brill Handbooks on Contemporary Religion. 4. Leiden: Brill Publishers. tt. 659–680. doi:10.1163/9789004226487_027.
  7. ↑ Martin Lings, What is Sufism? (Lahore: Suhail Academy, 2005), t.15
  8. ↑ Titus Burckhardt, Art of Islam: Language and Meaning (Bloomington: World Wisdom, 2009), t.223
  9. ↑ Seyyed Hossein Nasr, The Essential Seyyed Hossein Nasr, gol. William C. Chittick (Bloomington: World Wisdom, 2007), t.74
  10. ↑ Martin Lings, What is Sufism? (Lahore: Suhail Academy, 2005; first imp. 1983, second imp. 1999), p.12: "Mystics on the other hand-and Sufism is a kind of mysticism-are by definition concerned above all with 'the mysteries of the Kingdom of Heaven'".
  11. ↑ Compare: Nasr, Seyyed Hossein (2007). Chittick, William C. (gol.). The Essential Seyyed Hossein Nasr. The perennial philosophy series. Bloomington, Indiana: World Wisdom, Inc. t. 74. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017. Cyfeirir at Ymarferwyr Swffïaeth fel "Swffisiaid" (o صُوفِيّ , ṣūfīy), ac yn hanesyddol roedd yn perthyn i "urdd" a elwir yn tariqa (lluosog: ṭuruq) - cynulleidfaoedd wedi'u ffurfio o amgylch wali meistr mawr a fyddai'r olaf mewn cadwyn o athrawon olynol a allant olrhain eu llinach hyd at Muhammad. Mae athrawiaethau a sefydliadau Swffïaeth yn ategu fframwaith sylfaenol arferion Islam. Er bod Swffïaeth yn cadw at y gyfraith Islamaidd yn llym ac yn perthyn i wahanol ysgolion cyfreitheg a diwinyddiaeth Islamaidd, maent wedi'u huno gan eu gwrthwynebiad i gyfreithlondeb sych. Mae ffocws pwysig addoliad y Swffiaid yn cynnwys dhikr, yr arfer o gofio Duw.A Prayer for Spiritual Elevation and Protection (2007) gan Muhyiddin Ibn 'Arabi, Suha Taji-Farouki
  12. ↑ G. R Hawting (2002). The First Dynasty of Islam: The Umayyad Caliphate 661-750. Taylor & Francis.
  13. ↑ Howell, Julia. "Sufism in the Modern World". Oxford Islamic Studies Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2019. Cyrchwyd 2022-01-23.
  14. ↑ Sedgwick, Mark (2012). "Neo-Sufism". In Hammer, Olav; Rothstein, Mikael (gol.). The Cambridge Companion to New Religious Movements. Cambridge University Press.
  15. 1 2 Chittick, William C. (2009). "Sufism. ṢūfĪ Thought and Practice". In Esposito, John L. (gol.). The Oxford Encyclopedia of the Islamic World. Rhydychen: Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2010. Cyrchwyd 23 Ionawr 2022.
  16. ↑ The Naqshbandi Sufi Tradition Guidebook of Daily Practices and Devotions, p. 83, Muhammad Hisham Kabbani, Shaykh Muhammad Hisham Kabbani, 2004
  17. ↑ "Sufism in Islam". Mac.abc.se. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ebrill 2012. Cyrchwyd 13 Awst 2012.