Neidio i'r cynnwys

Pinterest

Oddi ar Wicipedia
Pinterest
Enghraifft o:gwefan, gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, Wici, cyfansoddair cywasgedig, cymuned arlein, very large online platform Edit this on Wikidata
AwdurBen Silbermann Edit this on Wikidata
IaithTsieceg, Daneg, Iseldireg, Saesneg, Ffinneg, Ffrangeg, Almaeneg, Groeg, Hindi, Hwngareg, Indoneseg, Eidaleg, Japaneg, Coreeg, Maleieg, Bokmål, Pwyleg, Portiwgaleg Brasil, European Portuguese, Rwmaneg, Rwseg, Slofaceg, Sbaeneg, Swedeg, Tagalog, Tai, Tyrceg, Wcreineg, Fietnameg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Ionawr 2010 Edit this on Wikidata
PerchennogPinterest Inc. Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddBen Silbermann, Evan Sharp Edit this on Wikidata
PencadlysPalo Alto Edit this on Wikidata
Enw brodorolPinterest Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DosbarthyddGoogle Play, App Store Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.pinterest.com/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0h3tm0f edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Pinterest yn wasanaeth rhannu a chyhoeddi lluniau rhyngrwyd Americanaidd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr "binio" lluniau, GIFs, a fideos maen nhw'n eu hoffi, eu huwchlwytho, a golygu eu hargymhellion eu hunain i'w "byrddau pin".[1]

Gall defnyddwyr ymweld â byrddau pin eraill, 'ail-binio' delweddau i'w byrddau pin eu hunain, neu 'hoffi' lluniau. Crëwyd y wefan gan Ben Silbermann, Paul Sciarra, ac Evan Sharp. Rheolir y wefan gan Cold Brew Labs ac mae'n cael ei hariannu gan grŵp bach o entrepreneuriaid a dyfeiswyr.[2] Mae gan Pinterest sylfaen ddefnyddwyr fenywaidd fawr. Mae gan Pinterest lawer o gategorïau gwahanol, gall amrywio o ffasiwn, ryseitiau, gwella cartrefi i ddyfyniadau, iechyd a harddwch.

Dechreuodd Pinterest ddatblygu ym mis Rhagfyr 2009. Dyfeisiwyd y platfform gan Ben Silbermann, ynghyd â Paul Sciarra ac Evan Sharp. Mae cysyniad y wefan hon yn dilyn y syniad o system nodi tudalennau Wists, a ddyfeisiwyd gan David Galbraith yn 2005. Lansiwyd Pinterest fel beta preifat ym mis Mawrth 2010.[3]

Erbyn mis Ionawr 2012 cyhoeddodd comScore fod gan Pinterest 11.7 miliwn o ddefnyddwyr, gan ei gwneud y wefan sy'n tyfu gyflymaf mewn hanes.[4]

Ym mis Ionawr 2026 torrodd Pinterest tua 15% o'i weithlu yn ei frwydr i gystadlu am ddoleri hysbysebu yn erbyn llwyfannau â phocedi dwfn, gan anfon ei gyfranddaliadau i lawr 12% mewn masnachu estynedig.[5]

Gweithrediad a chyfleustodau

[golygu | golygu cod]

I fod yn rhan o Pinterest, mae angen i chi ofyn am wahoddiad ar yr un platfform neu ofyn am un gan rywun sydd eisoes yn rhan ohono. Gallwch gofrestru trwy Facebook neu Twitter i bostio eich gweithgaredd Pinterest ar Facebook neu X.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Malik, Om (4 Ionawr 2012). "You are what you curate: why Pinterest is hawt". gigaom.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2019. Cyrchwyd 15 Chwefror 2019.
  2. ↑ Carlson, Nicholas. "INSIDE PINTEREST: An Overnight Success Four Years In The Making". Business Insider.
  3. ↑ "Create the Life you Love". Gwefan Piniterest. 27 Awst 2026.
  4. ↑ "Pinterest Hits 10 Million U.S. Monthly Uniques Faster Than Any Standalone Site Ever". TechCrunch. 27 Awst 2026.
  5. ↑ "Pinterest forecasts downbeat revenue as it battles for digital ad dollars; shares plunge". The Business Times (yn Saesneg). 12 Chwefror 2026. Cyrchwyd 12 Awst 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r We Fyd-Eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.