Neidio i'r cynnwys

Mei Jones

Oddi ar Wicipedia
Mei Jones
GanwydHenryd Myrddin Jones Edit this on Wikidata
Chwefror 1953 Edit this on Wikidata
Llanddona Edit this on Wikidata
Bu farw5 Tachwedd 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, sgriptiwr, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Actor a sgriptiwr o Gymru oedd Mei Jones neu Myrddin Jones neu Henryd Myrddin Jones (Chwefror 1953 – 5 Tachwedd 2021).[1][2] Cyd-greoedd y gyfres C'mon Midffild! gyda Alun Ffred Jones, a darlledwyd tair cyfres ar y radio cyn trosglwyddo yn llwyddiannus i deledu. Roedd perfformiad Mei fel y cymeriad hoffus 'Wali Thomas' yn un o'r creadigaethau comedi mwyaf poblogaidd erioed yn y Gymraeg. Cyd-greodd sawl cyfres deledu arall yn ogystal fel Deryn a Cerddwn Ymlaen.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Magwyd Henryd Myrddin Jones ar dyddyn yn Llanddona, Ynys Môn, cyn i’r teulu symud i Lanfairpwll. Yn blentyn roedd yn bêl-droediwr talentog a chafodd ei dderbyn i garfan dan-18 Cymru tra'n dal yn ddisgybl ysgol. Bu'n chwarae i dîm Biwmares, Amlwch, Bangor ac yn gôl-geidwad i dîm Llanrug.[3]

Aeth i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn mynychu Coleg y Brifysgol, Aberystwyth gan ddilyn cwrs mewn diwinyddiaeth. Yn y cyfnod yma daeth yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp Mynediad am Ddim. Bu'n chwarae i glwb pêl-droed Pontrhydfendigaid yn ystod ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth.[4] Aeth ymlaen i gwrs drama Cymraeg yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.

Bu'n actio, sgriptio a chyfarwyddo ers 1976. Dechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws. Ar y radio, bu’n rhan o dîm Pupur a Halen ac Wythnos i’w Anghofio, ac yna fe sgriptiodd, actiodd a chyfarwyddodd wyth cyfres, un ffilm a sioe lwyfan o C'mon Midffild!. Enillodd Mei ac Alun Ffred Jones wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru ar gyfer C'mon Midffild! yn 1992.[5]

Yn ystod yr 1980au bu'n actio mewn sawl cyfres ddrama yn cynnwys Wastad ar y Tu Fas, Hufen a Moch Bach, Anturiaethau Dic Preifat ac Ŵyn i'r Lladdfa. Sgriptiodd y cyfresi drama Deryn a Cerddwn Ymlaen ar y cyd gyda Meic Povey.[6]

Yn 2008 fe’i comisiynwyd i ysgrifennu drama gomedi o’r enw Planed Patagonia.[7]

Roedd hefyd yn un o'r Jonesiaid a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd ran.[8]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Wedi i losgiadau tai haf ddechrau yn 1979, a'r heddlu yn rhwystredig oherwydd eu hymdrechion aflwyddiannus i ddal y rhai oedd yn gyfrifol, arestiwyd Mei Jones ynghyd â'i gyd-aelod o gast C'mon Midffild!, Bryn Fôn yn 1990.[9] Ni ddygwyd unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn.

Bu farw yn 68 mlwydd oed wedi cyfnod o salwch. Roedd yn dad i pedwar o blant, Ela, Lois, Steffan ac Aaron.[10]

Gwaith ddethol

[golygu | golygu cod]

Theatr

[golygu | golygu cod]

Fel dramodydd

Fel actor

Cwmni Theatr Cymru

Theatr Bara Caws

Cwmnïau eraill

Ffilm, teledu a radio

[golygu | golygu cod]

Fel dramodydd / sgriptiwr

  • Pupur a Halen (1981) Radio Cymru - awdur
  • Wythnos i’w Anghofio
  • Deryn (1986)
  • Cerddwn Ymlaen (2000–2002)

Fel actor

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Mae rhai o'i ganeuon yn y gyfrol O'r Sioe gan Gyhoeddiadau Curiad.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  2. ↑ Yr awdur a’r actor Mei Jones wedi marw yn 68 oed , BBC Cymru Fyw, 5 Tachwedd 2021.
  3. ↑ "Trafod tictacs gyda Wali; Caron Wyn Edwards fu'n sgwrsio a Mei Jones, awdur y ffilm Nadolig, C'mon Midffild a Rasbrijam, a'r actor sy'n chwarae Wali.", Daily Post, 18 Rhagfyr 2004.
  4. ↑ "Clwb pêl-droed yn dathlu 60", bbc.co.uk, 11 Mehefin 2007.
  5. ↑ Enillwyr gwobrau Nant[dolen farw]
  6. ↑ Conwy Urdd to kick off with Saturday prom night , Daily Post, 21 Mai 2008. Cyrchwyd ar 20 Rhagfyr 2018.
  7. ↑  Cwrs Sgwennu Comedi : Ty Newydd (5 Chwefror 2008). Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2018.
  8. ↑ 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
  9. ↑ 25 years later... why have we still not caught the cottage burners?, Daily Post 9 Rhagfyr 2004
  10. ↑ Yr actor a’r sgriptiwr Mei Jones wedi marw , Golwg360, 5 Tachwedd 2021.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]