Neidio i'r cynnwys

Margaret John

Oddi ar Wicipedia
Margaret John
Ganwyd14 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
o canser yr afu Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes oedd Margaret John (14 Rhagfyr 1926 – 2 Chwefror 2011). Pan yn blentyn, roedd hi eisiau bod y nyrs neu'n filfeddyg ond yn hytrach aeth i astudio yn London Academy of Music and Dramatic Art.[1] Mwynhaodd John yrfa a barhaodd dros 50 mlynedd, gan ymddangos mewn rhai o raglenni teledu mwyaf poblogaidd Prydain, gan gynnwys Coronation Street, Dixon of Dock Green, Z-Cars, Doctor Who, Emmerdale, Last of the Summer Wine, Crossroads, Little Britain, a Gavin & Stacey.

Ymddangosodd ar y teledu hefyd mewn penodau o The First Lady, The Troubleshooters, Softly, Softly, The Mike Yarwood Show, Doomwatch, Blake's 7, Secret Army, Lovejoy, My Family, High Hopes, The District Nurse, Casualty, a Doctors. Chwaraeodd hefyd ran Mrs Stone yn nrama Radio 4, Linda Smith's A Brief History of Timewasting.

Ym Medi 2009, ymddangosodd mewn ffilm fer graffig Cow, gan y cyfarwyddwr Peter Watkins Hughes, yn rhybuddio am y peryglon o decstio tra'n gyrru.[2]

Gwobrwywyd John gyda'r Wobr am Gamp Oes yn 18fed gwobrau BAFTA Cymru ar 17 Mai 2009, yng Nganolfan Mileniwm Cymru, mewn seremoni a westeiwyd gan Gethin Jones.[3]

Yn 2009 ymddangosodd John yn The Vagina Monologues. Cyn y cyhyrchiad hwn, ei pherfformiad diwethaf yn y theatr oedd Medea yn Theatr Young Vic yn Llundain yn ystod y 1980au. Perfformiodd hefyd yn y cynhyrchiad o Calendar Girls yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd o 27 Gorffennaf tan 7 Awst 2010 ac yn Venue Cymru, Llandudno o 9 Awst tan 14 Awst 2010, gan gydweithio gyda Ruth Madoc.[4]

Bu'r gŵr John yn feolinydd cyntaf gyda'r London Symphony Orchestra a perfformiodd gyda Frank Sinatra.[5]

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑  Meet: Margaret John. swansealife.co.uk.
  2. ↑  Graphic film about dangers of texting is internet hit. Wales-online.co.uk.
  3. ↑  Nations & Regions Awards. BAFTA.
  4. ↑  Price (29 Ebrill 2010). Margaret John stars in Calendar Girls. Western Mail. Trinity Mirror.
  5. ↑ Proffil IMDb Margaret John
  6. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-03. Cyrchwyd 2011-02-02.
  7. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-07. Cyrchwyd 2011-02-02.