Môr Gwyn
| Math | môr ymylon, internal sea |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | gwyn |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Arctig |
| Gwlad | Rwsia |
| Arwynebedd | 90,800 km² |
| Gerllaw | Môr Barents |
| Cyfesurynnau | 65.8°N 39°E |
![]() | |


Braich o'r Môr Barents yw'r Môr Gwyn (Rwseg: Бе́лое мо́ре), a leolir ar arfordir gogledd-orllewinol Rwsia. Mae'n rhan o Gefnfor yr Arctig. Ceir Gweriniaeth Karelia i'r gorllewin, Gorynys Kola i'r gogledd, a Gorynys Kanin i'r gogledd-ddwyrain. Mae'r môr cyfan dan sofraniaeth Rwsia ac yn cael ei ystyried yn rhan o ddyfroedd mewnol Rwsia. Yn weinyddol, fe'i rhennir rhwng Oblast Arkhangelsk ac Oblast Murmansk a Gweriniaeth Karelia.
Lleolir porthladd mawr Arkhangelsk ar y Môr Gwyn. Roedd y môr o bwys strategol mawr i'r Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd fel terfyniad llwybr y confois Arctig a gyflenwai'r Undeb Sofietaidd o'r gorllewin.
Ceir nifer o ynysoedd yn y Môr Gwyn ond mae'r rhan fwyaf yn fychain. Ceir pedair prif fraich i'r môr sy'n ffurfio baeau fel Bae Onega lle mae Afon Onega yn aberu, ger tref Onega, a Bae Dvina lle mae Afon Dvina Ogleddol yn cyrraedd y môr ger Arkhangelsk.
