Les Misérables (sioe gerdd)
| Les Misérables | |
| Poster y sioe wreiddiol | |
|---|---|
| Cerddoriaeth | Claude-Michel Schönberg |
| Geiriau | Herbert Kretzmer Alain Boublil |
| Llyfr | Victor Hugo |
| Seiliedig ar | Yn seiliedig ar nofel 1862 Victor Hugo Les Misérables |
| Cynhyrchiad | 1980 Cynhyrchiad Ffrengig gwreiddiol 1985 West End Llundain 1986 Canolfan Lincoln 1987 Broadway 1987 Tel Aviv 1988 Taith UDA 1989 Cynhyrchiad Awstriaidd 1989 Toronto 1989 Cynhyrchiad Pwylaidd 1991 Cynhyrchiad ym Mharis 1991 Fersiwn yr Iseldiroedd 1992 Madrid 1992 Prag 1999 Ail fersiwn Hebraeg 2001 Tallinn 2006 Adfywiad Broadway 2007 Belgrade, Serbia 2008 Adfywiad o'r fersiwn Iseldireg gyda chynhyrchiadau'n fyd eang 2015 Cynhyrchiad Cwmni Theatr yr Urdd |
| Gwobrau | Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Tony am y Llyfr Gorau Gwobr Tony am y Sgôr Wreiddiol Gorau |
Sioe gerdd sydd wedi ennill ei chlod am y rhediad hiraf yn hanes West End Llundain, a'r ail hiraf drwy'r byd[1] ydi Les Misérables (ynganer /leɪ ˌmɪzəˈrɑːb/; ynganiad Ffrengig: [le mizeˈʁaːblə]), a chaiff ei hadnabod ar lafar fel Les Mis neu Les Miz. Cyfansoddwyd y sioe wreiddiol ym 1980 gan y cyfansoddwr Ffrengig Claude-Michel Schönberg ac Alain Boublil, wedi'i selio ar y nofel o'r un enw gan Victor Hugo o 1862, gyda'r Chwyldro Ffrenging yn gefndir iddi. Ym 1985, addaswyd y sioe yn gynyrchiad Saesneg gan agor yn Nghanolfan y Barbican yn Llundain a ddathlodd y sioe ei phenblwydd yn 40 oed ac yr 8 Hydref 2025.[1] Ar 31 Mai 2005 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, llwyfannwyd cyfieithiad Cymraeg Tudur Dylan Jones o "fersiwn ysgolion" o'r sioe gan Gwmni Theatr yr Urdd. Ail-lwyfannwyd y sioe gerdd gan Gwmni'r Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2015. Mae nifer o Gymry wedi portreadu cymeriadau blaenllaw yn y sioe dros y blynyddoedd gan gynnwys John Owen-Jones, Peter Karrie, Caroline Sheen, Stifyn Parri, Ria Jones, Llio Milward, Dylan Eurig Williams, Lucie Jones, Mared Williams a Kane Oliver Parry.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Jean Valjean – prif gymeriad y stori. Cyn-garcharor a gafodd ei garcharu am ddwyn bara. Mae’n ailadeiladu ei fywyd dan hunaniaeth newydd ac yn dod yn warcheidwad i Cosette.
- Javert – arolygydd heddlu sy’n mynd ar drywydd Valjean am flynyddoedd. Mae’n credu’n ddiwyro mewn cyfraith, trefn a chosb.
- Fantine – mam Cosette. Mae hi’n colli ei gwaith ac yn disgyn i dlodi enbyd wrth geisio anfon arian i gynnal ei merch.
- Cosette – merch Fantine. Mae Valjean yn ei hachub rhag y Thénardiers ac yn ei magu fel ei ferch ei hun. Yn ddiweddarach mae’n syrthio mewn cariad â Marius.
- Marius Pontmercy – myfyriwr ifanc sy’n ymwneud â’r chwyldroadwyr ac sy’n syrthio mewn cariad â Cosette.
- Éponine – merch y Thénardiers. Roedd hi a Cosette yn adnabod ei gilydd yn blant; fel oedolyn mae Éponine mewn cariad â Marius, ond nid yw ef yn dychwelyd ei chariad.
- Monsieur Thénardier – tafarnwr twyllodrus, barus a chomig sydd wedi bod yn gofalu am Cosette pan oedd hi’n blentyn.
- Madame Thénardier – gwraig Thénardier; yr un mor greulon a diegwyddor â’i gŵr.
- Enjolras – arweinydd carismatig y myfyrwyr chwyldroadol sy’n adeiladu’r barricâd.
- Gavroche – bachgen stryd dewr sy’n ymuno â’r chwyldroadwyr. Yn y nofel mae’n fab i’r Thénardiers, er nad yw’r sioe gerdd yn pwysleisio’r berthynas honno.
- The Bishop of Digne / yr Esgob – y clerigwr sy’n dangos trugaredd i Valjean ar ddechrau’r stori ac, yn y bôn, yn newid cyfeiriad ei fywyd.
- Grantaire – un o’r myfyrwyr; sinigaidd ac yn hoff o yfed, ond yn ffyddlon i Enjolras.
- Combeferre, Courfeyrac, Feuilly, Joly, Lesgles – aelodau eraill o’r grŵp o fyfyrwyr/chwyldroadwyr.
- Young Cosette (Cosette Fach) – Cosette yn blentyn; hi sy’n canu “Castle on a Cloud”.
- Young Éponine (Éponine Fach) – Éponine yn blentyn yng nghartref y Thénardiers.
Caneuon
[golygu | golygu cod]Ymysg caneuon enwocaf y sioe, sydd wedi ennill Gwobr Tony, mae "Castle On A Cloud", "I Dreamed a Dream", "One Day More", "A Heart Full of Love", "Stars", "Bring Him Home", "Do You Hear the People Sing?", "Empty Chairs and Empty Tables", "Master of the House", "Little People", "A Little Fall of Rain", ac "On My Own".
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Fe'i lleolir yn Ffrainc yn ystod y 19g a dilyna hynt a helynt cast o gymeriadau wrth iddynt frwydro am faddeuant a chwyldro.
Mae'n adrodd hanes Jean Valjean, cyn-garcharor sy’n ceisio ailadeiladu ei fywyd ar ôl cael ei ryddhau, ond sy’n cael ei erlid yn ddi-baid gan yr arolygydd Javert. Wedi marwolaeth Fantine, mae Valjean yn magu ei merch Cosette, sydd yn ddiweddarach yn syrthio mewn cariad â’r myfyriwr Marius. Yng nghanol tlodi ac aflonyddwch Paris, mae Marius a’i gyfeillion yn ymuno â gwrthryfel ac yn codi barricâd, lle mae nifer ohonynt, gan gynnwys Éponine a Gavroche, yn cael eu lladd. Mae Valjean yn achub bywyd Marius ac yn dangos trugaredd i Javert, gweithred sy’n chwalu sicrwydd moesol Javert ac yn arwain at ei hunanladdiad. Yn y diwedd, mae Cosette a Marius yn priodi, a Valjean yn marw mewn heddwch wedi iddo gael ei aduno â’r ferch a fagodd.
Ceir amrywiaeth o gymeriadau comig ynghanol difrifoldeb y prif stori a'i chefndir, megis y Thénardiers, y tafarnwyr diegwyddor, sy'n gofalu am Cosette wedi iddi golli'i mam, ac wrth eu boddau yn twyllo a dwyn, fel sy'n cael ei ddathlu yn y gân "Master of the House".
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cyfansoddwyd a llwyfannwyd y sioe gerdd gwreiddiol yn y Ffrangeg yn y Palais des Sports ym Mharis ym Medi 1980 a bu'n lwyddiant ysgubol gyda'r cynulleidfaoedd yn Ffrainc.
Ym 1982, tua chwe mis wedi i Cats agor yn Llundain, rhoddwyd recordiad o'r sioe Ffrengig wreiddiol i'r cynhyrchydd Cameron Mackintosh gan y cyfarwyddwr Peter Ferago. Roedd Ferago wedi ei blesio'n fawr gan yr albwm a gofynnodd i Mackintosh a fyddai diddordeb ganddo mewn cynhyrchu fersiwn Saesneg o'r sioe. Er ei amheuon cychwynol, fe gytunodd Mackintosh i'w llwyfannu. Dewiswyd y newyddiadurwr a'r bardd James Fenton i gyfansoddi'r geiriau Saesneg, ond daeth Herbert Kretzmer i ddatblygu'r geiriau Ffrengig gwreiddiol. Nid oedd ei waith yn "gyfieithad" uniongyrchol o'r Ffrangeg. Daeth traean o'r geiriau Saesneg o rhyw gyfieithad bras, traean arall yn addasiad o'r geiriau Ffrangeg a'r traean olaf yn ddeunydd newydd sbon, megis y Prolog. Ysgrifennwyd cerddoriaeth ychwanegol i gyd-fynd â'r deunydd newydd.
Cyflogwyd Trevor Nunn a John Caird i gyfarwyddo a chyd-gynhyrchu'r sioe, a dewiswyd y Royal Shakespeare Company i gyflwyno'r sioe, gyda rhai o'i haelodau megis Roger Allam ac Alun Armstrong, yn y cast. Agorodd y sioe am y tro cyntaf yn Llundain ar yr 8 Hydref 1985 yng Nghanolfan Celfyddydol y Barbican, cyn symud i Theatr y Palace ac yna i Theatr y Queen, lle mae'n parhau i gael ei pherfformio, er bod y theatr bellach wedi newid ei henwi i Theatr Sondheim.
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]| Cymeriad | Ffrainc[2] | West End[3] | Broadway[4] | Taith Y Deyrnas Unedig | Cymru - Cwmni Theatr yr Urdd[5] | Cymru - Cwmni Theatr yr Urdd[6] |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1980 | 1985 | 1987 | 2009 | 2005 | 2015 | |
| Jean Valjean | Maurice Barrier | Colm Wilkinson | John Owen-Jones | Rhys Meggy | Osian Wyn Bowen | |
| Javert | Jean Vallée | Roger Allam | Terrence Mann | Earl Carpenter | Gareth Rhys Thomas | |
| Fantine | Rose Laurens | Patti LuPone | Randy Graff | Madalena Alberto | Dani Davies | Gwen Edwards |
| Thénardier | Yvan Dautin | Alun Armstrong | Leo Burmester | Ashley Artus | Siôn Ifan | John Wykes |
| Madame Thénardier | Marie-France Roussel | Susan Jane Tanner | Jennifer Butt | Lynne Wilmot | Siriol Dafydd | Erin Wyn Rossington |
| Marius Pontmercy | Gilles Buhlmann | Michael Ball | David Bryant | Gareth Gates | Iddon Alaw Jones | Dafydd Wyn Jones |
| Éponine | Marianne Mille | Frances Ruffelle | Rosalind James | Elain Llwyd | Jodi Bird
Lois Postle | |
| Cosette | Fabienne Guyon | Rebecca Caine | Judy Kuhn | Katie Hall | Sioned Llewelyn | |
| Enjolras | Christian Ratellin | David Burt | Michael Maguire | Jon Robyns | Rhydian Marc | Ashley Rogers |
| Gavroche | Cyrille Dupont
Fabrice Ploquin Florence Davis |
Ian Tucker
Oliver Spencer Liza Hayden |
Braden Danner
RD Robb |
Jordi Clark
Rob Madge |
||
1980au
[golygu | golygu cod]Agorodd y sioe gerdd Ffrengig wreiddiol yn y Palais des Sports ym Mharis ym Medi 1980.
Agorodd yr addasiad Saesneg yn Llundain ar yr 8 Hydref 1985 yng Nghanolfan Celfyddydol y Barbican, cyn symud i Theatr y Palace ac yna i Theatr y Queens / Sondheim.
Roedd yr adolygiadau gan y beirniaid yn negyddol iawn, gyda rhai ysgolheigion yn ei gondemnio am droi darn i lenyddiaeth clasurol Ffrengig i mewn i sioe gerdd, tra bod eraill yn credu fod y sioe yn rhy drymaidd. Fodd bynnag, mwynhaodd y gynulleidfa'r sioe ac yn fuan iawn roedd y swyddfa docynnau yn gwerthu allan ar gyfer y perfformiadau. Bellach mae'r adolygiadau yn llawer mwy cadarnhaol.
2000au
[golygu | golygu cod]Cafwyd dau lwyfanniad o'r cyfeithiad Cymraeg o'r "fersiwn ysgolion" gan Gwmni Theatr yr Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2005 o dan gyfarwyddyd Carys Edwards a Peter Davies. Tim Rhys-Evans a John Quirk oedd yng ngofal yr ochr gerddorol.[5] "Wnaethon ni gynnal clyweliadau gyda disgyblion o ysgolion ar draws Cymru, tua pymtheg neu ugain ohonyn nhw i gyd," yn ôl Edwards, "Mae tua 100 o bobl ifanc yn y cast, yn ogystal â deunaw yn y band."[7]
2010au
[golygu | golygu cod]Ail lwyfannwyd y cyfeithiad Cymraeg gan Gwmni Theatr yr Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 29 – 31 Hydref 2015, gyda 130 o gast, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Ganolfan yn 10 oed. Ymgeisiodd 250 o bobl ifanc ar draws Cymru gais i fod yn rhan o’r sioe oedd yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a "Theatr Genedlaethol yr Urdd".[6] Roedd y cynhyrchiad "mewn partneriaeth gydag Ysgol Glanaethwy a gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cefin Roberts oedd y Cyfarwyddwr Artistig gyda John Quirk yn Gyfarwyddwr Cerdd a Carys Edwards a Rhian Roberts yn Is-Gyfarwyddwyr.[6]
Gwahoddwyd y cast i berfformio yng nghyngerdd gala 30 mlwyddiant Les Misérables yn Theatr y Queen’s ar yr 8 Hydref 2015 "fel gwesteion arbennig i Cameron Mackintosh". Yn dilyn perfformiad prif gast y West End, daeth y cast gwreiddiol a phump cyn ‘Jean Valjean’, oedd yn cynnwys John Owen-Jones, yn ogystal â’r 130 o Gymry ifanc ar y llwyfan ar gyfer ‘finale’.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Les Misérables is Celebrating Its 40th Anniversary" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-08-31.
- ↑ "Les Misérables". Les Archives du spectacle (yn Ffrangeg). 1980-09-20. Cyrchwyd 2026-08-31.
- ↑ Mackintosh, Cameron. "1981 - 1990 - History". Cameron Mackintosh (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-08-31.
- ↑ "Les Misérables – Broadway Musical – Original | IBDB". www.ibdb.com. Cyrchwyd 2026-08-31.
- 1 2 "BBC Cymru'r Byd - Eisteddfod yr Urdd 2005 - Adolygiad Les Misérables". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-08-31.
- 1 2 3 4 "Urdd Gobaith Cymru / Les Miserables 2015". www.urdd.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-08-31.[dolen farw]
- ↑ "BBC - De Ddwyrain - Cyfweld â Carys". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-08-31.