Neidio i'r cynnwys

John Humphrys

Oddi ar Wicipedia
John Humphrys
Ganwyd17 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Y Sblot Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Cyfraith Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodValerie Sanderson Edit this on Wikidata
Gwobr/audoethuriaeth er anrhydedd Edit this on Wikidata

Awdur, newyddiadurwr a chyflwynydd radio a theledu o Gymru yw Desmond John Humphrys (ganwyd 17 Awst 1943). O 1981 i 1987 roedd yn brif gyflwynydd Nine O'Clock News, prif raglen newyddion Prydeinig y BBC. Rhwng 1987 a 2019 roedd yn cyflwyno rhaglen arobryn BBC Radio 4, Today. O 2003 i 2021 bu'n cyflwyno'r cwis teledu "anoddaf un" – Mastermind.[1]

Mae gan Humphrys enw da fel cyfwelydd dygn a phlaen; o bryd i'w gilydd mae gwleidyddion wedi bod yn feirniadol iawn o'i arddull ar ôl cael eu cyfweld yn llym ganddo ar radio a theledu byw.[2]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Cafodd Humphrys ei eni yn Pearl Street, Sblot, Caerdydd yn fab i Edward George Humphrys, Cwyrydd Ffrenig, a Winifred Mary (cynt Matthews), triniwr gwallt. Roedd yn un o bump o blant. Brawd iddo oedd Bob Humphrys gohebydd chwaraeon BBC Cymru.[3]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Caerdydd gan adael yr ysgol yn 15 oed i gychwyn gyrfa yn y byd newyddiadurol.

Ar ôl gadael yr ysgol cafodd ei benodi'n ohebydd dan hyfforddiant ar y Penarth Times cyn cael ei benodi yn gyw ohebydd ar y Western Mail ac yna'n ohebydd teledu ar TWW. Ymunodd â'r BBC ym 1966 fel gohebydd rhanbarthol Lerpwl a gogledd orllewin Lloegr, cyn cael ei ddyrchafu'n ohebydd tramor. Fel gohebydd tramor fu'n gyfrifol am ohebu'r newyddion am ymddiswyddiad Richard Nixon o arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Ym 1981 daeth yn brif angor rhaglen Nine O'Clock News y BBC gan gadw'r swydd hyd 1987 pan gafodd ei benodi'n brif gyflwynydd rhaglen newyddion Today ar Radio 4 fel olynydd i John Timpson. O 1993 hyd 2003 bu'n gyflwynydd y rhaglen deledu On The Record [4] Cyhoeddodd yn Chwefror 2019 y byddai'n rhoi'r gorau i gyflwyno Today gan ddweud y dylai fod wedi gadael "flynyddoedd yn ôl". Darlledodd ei sioe olaf ar fore 19 Medi 2019.[5]

Ym mis Gorffennaf 2026 nododd mewn erthygl yn y Guardian for y rhaglen Today wedi mynd yn 'annoying' ers iddo adael.[6]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • Devil's Advocate (Llundain: Arrow Books, 2000)
  • The Great Food Gamble (Llundain: Coronet Books, 2002)
  • Lost For Words: The Mangling and Manipulating of the English Language (Llundain: Hodder & Stoughton, 2004)
  • Beyond Words: How Language Reveals the Way We Live Now (Llundain: Hodder & Stoughton, 2006)
  • In God We Doubt: Confessions of a Failed Atheist (Llundain: Hodder & Stoughton, 2007)
  • Blue Skies & Black Olives (Llundain: Hodder & Stoughton, 2009)
  • (gyda Sara Jarvis) The Welcome Visitor: Living Well, Dying Well (Llundain: Hodder & Stoughton, 2009)
  • A Day Like Today: Memoirs (Llundain: William Collins, 2019)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Mastermind: John Humphrys to step down as host" (yn Saesneg). 2021-02-06. Cyrchwyd 2026-08-17.
  2. ↑ Archifwyd 2015-03-03 yn y Peiriant Wayback Gwefan www.bbc.co.uk; adalwyd 16 Mai 2015
  3. ↑ ‘HUMPHRYS, John’, Who's Who 2014, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Tachwedd 2014 Adalwyd 16 Mai 2015
  4. ↑ Gwefan www.bbc.co.uk; Archifwyd 2015-03-03 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Mai 2015
  5. ↑  John Humphrys yn beirniadu gwleidyddion sy’n osgoi cyfweliadau. Golwg360 (19 Medi 2019).
  6. ↑ Humphrys, John (2026-07-11). "The hill I will die on: Radio 4's Today programme has become really annoying since I left". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-08-17.