John Hardy
| John Hardy | |
|---|---|
| Ganwyd | 1956 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyflwynydd radio, cyflwynydd teledu, sylwebydd chwaraeon |
| Cyflogwr | |
- Ddim i'w gymysgu gyda'r cyfansoddwr o'r un enw.
Darlledwr o Gymru yw John Hardy (ganwyd 29 Medi 1956).[1] Mae wedi cyflwyno nifer o raglenni ar BBC Radio Cymru a rhaglenni teledu ar S4C. Bu'n sylwebydd pêl-droed ar gemau rhynwgladol Cymru.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Hardy yn blentyn i Bethan (nee Jones) a Dr Thomas Kenneth Hardy. Roedd ei dad yn feddyg oedd yn hannu o Fanceinion yn wreiddiol. Bu ei dad yn gweithio mewn sawl man o gwmpas y byd pan oedd yn ifanc a bu'r teulu yn byw yn America am gyfnod. Roedd Dr Hardy hefyd yn feddyg yn Rhyfel Corea rhwng 1953 a 1954.[2]
Roedd ei fam yn nyrs a fagwyd yn y Bala. Mae ganddo frawd hŷn, Dafydd, a dau frawd iau, Robin a Huw. Setlodd y teulu yn ôl ym Mhenrhosgarnedd, Bangor ar ddechrau'r 1960au. Bu farw ei fam yn 2012 a'i dad yn 2020, yn 92 mlwydd oed.[3][4]
Aeth Hardy i Ysgol Gynradd Bethesda lle'r oedd Gwenlyn Parry yn athro[5] ac yna i Ysgol Dyffryn Ogwen.[6] Yn ei arddegau roedd yn chwarae pêl-droed i glybiau lleol. Cafodd gynnig dreial gyda clybiau pêl-droed Everton a Wrecsam ond gwrthododd. Ar gyfer lefel-A astudiodd Ffiseg, Cemeg a Bioleg gyda'r bwriad o fynd yn feddyg fel ei dad. Ar ôl y flwyddyn gyntaf dywedodd wrth ei dad nad oedd am ddilyn gyrfa meddygaeth.
Wedi gadael yr ysgol aeth ar gwrs i fod yn gyfrifydd ond roedd ei fryd ar weithio ym myd chwaraeon.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd weithio i'r BBC ar 5 Tachwedd 1979. Yn gweithio i adran chwaraeon BBC Cymru, bu'n sylwebydd yn y ddwy iaith, yn bennaf ar bêl-droed. Sylwebodd ar ddigwyddiadau eraill yn cynnwys Gemau'r Gymanwlad, Gemau Olympaidd, y Giro D'Italia a'r Tour de France.
Yn y ystod ei yrfa mae wedi gweithio fel ymchwilydd, cynhyrchydd, gohebydd, sylwebydd a chyflwynydd ar radio a theledu.[7]
Cyflwynodd y rhaglen Cofio ar Radio Cymru am 19 mlynedd. Ers 2013, mae wedi cyflwyno'r rhaglen gynnar rhwng 05:30 a 07:00 yn ystod yr wythnos.
Ar deledu, bu'n un o gyflwynwyr Prynhawn Da a Heno ar S4C. Cyflwynodd y sioe sgwrsio Cadw Cwmni yn 2019.
Yn 2005, cyhoeddodd y gyfrol Cwrt Cosbi, casgliad o ymsonau gan Hardy a glywyd gyntaf ar Radio Cymru.
Ym mis Medi 2026 cyhoeddodd ei fod am adael y BBC ym mis Mawrth 2027.[7]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu'n briod â Carol a chawsant dau o blant, Geraint a Daniel. Yn 2013 bu'r teulu yn sôn am alcoholiaeth ei fam mewn rhaglen ddogfen O’r Galon: Yr Hardys – Un Dydd ar y Tro.[8] Ei gymar yw Julie.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Hoffai pawb yn Radio Cymru ddymuno pen-blwydd hapus iawn i John Hardy". Facebook - BBC Radio Cymru. 2026-09-29.
- ↑ "Starvation, beatings and torture... Wales Korean War veterans remember their experiences in an emotive documentary". www.walesonline.co.uk (yn Saesneg). 2015-01-20. Cyrchwyd 2026-09-24.
- ↑ "Click here to view the tribute page for Bethan HARDY". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-09-24.
- ↑ "Click here to view the tribute page for DR THOMAS KENNETH HARDY". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-09-24.
- ↑ "Beti a'i Phobol - John Hardy - BBC Sounds". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-09-24.
- ↑ "BBC Cymru'r Byd - Radio Cymru - Atgofion". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-09-24.
- 1 2 "John Hardy i adael y BBC wedi bron i 50 mlynedd". newyddion.s4c.cymru. 2026-09-23. Cyrchwyd 2026-09-24.
- ↑ "My mum's battle with the bottle". www.dailypost.co.uk (yn Saesneg). 2013-12-01. Cyrchwyd 2026-09-24.