Glain Rhys
| Enghraifft o: | canwr, cyfarwyddwr |
|---|---|
| Genre | Pop Cymraeg, cerddoriaeth roc |
| Dynodwyr | |
Cantores a chyfarwyddwraig yw Glain Rhys, sy'n perfformio pop Cymraeg, sioeau cerdd, a cherddoriaeth werin. Magwyd hi yn y Bala a bu'n perfformio yn y West End yn Llundain[1] a chyn hynny gyda Chwmni Theatr Maldwyn.[2]
Mae'n dweud bod ei dylanwadau cerddorol yn cynnwys Billie Eillish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu Glain yn perfformio gyda Chwmni Theatr Maldwyn ac yna yn yn eu sioe Dyma Fi a oedd i'w pherfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meirionnydd 2014 ond a ohiriwyd oherwydd marwolaeth un o'r sylfaenwyr, Derec Williams yn ystod wythnos yr Eisteddfod.[2]
Daeth Glain i’r amlwg yng nghystadleuaeth 'Brwydr y Bandiau' BBC Radio Cymru/yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016. Fe gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth ar faes yr Eisteddfod yn y Fenni, ble daeth Chroma’n fuddugol.
Bu'n perfformio yn sioe gerdd The Phantom of the Opera yn Llundain ac roedd gyda'r cast yn ymarfer yng Gwlad Groeg yn 2020 pan ddaeth haint Covid-19 a bu iddi dreulio'r Cyfnod Clo yn ei chynefin ym Mhenllyn lle cyfansoddodd ganeuon fel 'Plu'r Gweinydd'.[3]
Yn 2022 bu iddi gydweithio gyda'r cerddor o Lansannan, Gildas (Arwel Lloyd) ar sengl ‘Eira Flwyddyn Nesaf’.[4] Roedd ei sengl 'Hed Wylan Deg' yn 2023 yn fwy electronig.[5]
Rhyddhawyd ei hail albwm, 'Pan Ddaw'r Dydd i Ben' yn 2023. Cydweithiodd yn agos gyda’r cynhyrchydd Osian Huw Williams ar offeryniaeth a chynhyrchiad ei chaneuon, a Partick Rimes (VRï/Calan) oedd yn gyfrifol am y trefniannau llinynnol.[6] Roedd ei sengl 'Yr Un Hen Stori' yn seiliedig ar lofruddiaeth â bwa saeth ar Ynys Môn gydag ysbrydoliaeth gan artistiaid megis Pale Waves, Catty ac Olivia Rodrigo.[7]
Yn 2024 bu iddi gyfarwyddo Sioe Ieuenctid yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024, Gewn Ni Weld Sut Eith Hi.[2][8]
Welsh of the West End
[golygu | golygu cod]Bu Glain yn perfformio yn sioeau cerdd The Phantom of the Opera a 'The Secret Garden' yn y West End yn Llundain erbyn diwedd yr 2010au gan berfformio yn Llundain a thu hwnt.[9] Mae Glain yn rhan o grŵp anffurfiol Welsh of the West End sy'n cynnwys Cymry sy'n perfformio yn sioeau'r West End yn Llundain. Daeth y côr i amlygrwydd adeg Covid-19 ac maent wedi cynnal cyngherddau yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt ac ymddangos ar y gyfres deledu boblogaidd, 'Britain's Got Talent'.[9]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Glain wedi cyhoeddi nifer o ganeuon.[10][11][12]
Senglau
[golygu | golygu cod]- Adre Dros Dolig - Label Rasal, rasal LL033 (2017)
- Plu'r Gweinydd - Label I KA CHING, IKACHING057 (2021)
- Swedish Tradition - Label I KA CHING, IKACHING062, (2021)
- Sara - Label I KA CHING, IKACHING067 (2022)
- Eira Flwyddyn Nesa - Label I KA CHING, IKACHING074 (2022) gyda Gildas
- Hed Wylan Deg - Label I KA CHING, IKACHING076(2023)
- Yr Un Hen Stori - Label I KA CHING, (2025)
Albymau
[golygu | golygu cod]- Atgof Prin - Label Rasal, rasal CD043 (2018) CD
- Pan Ddaw’r Dydd i Ben - recordiau I KA CHING, IKACHING077, (2023)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pump i'r Penwythnos 24 Mawrth 2017". Y Selar. 24 Mawrth 2017.
- 1 2 3 "Glain Rhys: 'Ysbrydoledig' cyfarwyddo sioe'r Urdd ddegawd ar ôl actio ynddi". BBC Cymru Fyw. 30 Ebrill 2024.
- 1 2 "Sengl newydd ar y ffordd gan Glain Rhys". Y Selar. 27 Ionawr 2021.
- ↑ "Glain Rhys yn Rhyddhau Trac Nadoligaidd". Y Selar. 10 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Glain Rhys yn rhyddhau 'Hed Wylan Deg'". Y Selar. 27 Mawrth 2023.
- ↑ "Rhyddhau albwm Glain Rhys". Y Selar. 4 Mehefin 2023.
- ↑ "Sengl newydd Glain Rhys". Y Selar. 12 Chwefror 2025.
- ↑ "Gewn Ni Weld Sut Eith Hi: Sioe Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024". Tudalen Facebook Eisteddfod yr Urdd Maldwyn. 1 Mai 2024.
- 1 2 "Glain Rhys". Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2025. Cyrchwyd 21 Medi 2026.
- ↑ "Glain Rhys". Gwefan Discogs. Cyrchwyd 21 Medi 2026.
- ↑ "Glain Rhys". Gwefan Spotify. Cyrchwyd 21 Medi 2026.
- ↑ "Glain Rhys". Y Selar. Cyrchwyd 21 Medi 2026.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- @GlainRhys - Sianel Youtube Glain Rhys
- Glain Rhys - Tudalen Spotify Glain Rhys
- @GlainRhysBand - Tudalen Facebook Glain Rhys
- @GlainRhys - Cyfrif TikTok Glain Rhys