Neidio i'r cynnwys

Eve Goodman

Oddi ar Wicipedia
Eve Goodman
Enghraifft o:canwr Edit this on Wikidata
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Genrecanu gwerin, Pop Cymraeg, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cantores o'r Felinheli, Gwynedd, sy'n canu yn y Gymraeg a'r Saesneg yw Eve Goodman. Mae hi'n canu caneuon gwerin neu o arddull werin Joni Mitchell, Suzanne Vega,[1] Nick Drake ac Adrienne Lenker.[2] Yn 2026 roedd hi'n o'r ychydig artistiaid o Gymru oedd wedi croesi 1 miliwn lawr lwythiad am gân Gymraeg ar Spotify gyda'i threfniant o'r alaw werin, Dacw 'Nghariad. Roedd dros 1.3 miliwn lawr-lwythiad ym mis Medi 2026.[3]

Dewiswyd hi i fod yn un o'r artistiaid ifanc neu newydd ar brosiect 'Gorwelion/Horizons' a noddwyd gan BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn 2019.[1]

Ymddangosodd Eve ar yr albwm Sea Songs gan Bryn Terfel yn 2024. Cyd-ganodd ddeuawdau Cymraeg a Llydaweg gydag e.[4]

Yn 2025 rhyddhaodd hi ei halbwm Natur mewn cydweithrediad gyda SERA (Sera Zyborska).[5]

Rhestr recordiadau

[golygu | golygu cod]

Senglau

[golygu | golygu cod]
  • Dacw 'Nghariad - Label Eve Goodman (2019)
  • Summer Sun, Winter Trees - (2024)
  • Quiet Revolution - (2024)
  • Blodyn Gwyllt - (2025)
  • Cwlwm Cariad - (2025)
  • Anian - (2025)
  • Bendith - (2025)

Albymau

[golygu | golygu cod]
  • Summer Sun, Winter Trees - (2024)
  • Natur - Recordiau Anian (2025)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Eve Goodman". Gwefan Gowelion Horizons. Cyrchwyd 24 Medi 2026.
  2. ↑ "Eve Goodman". Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2025. Cyrchwyd 24 Medi 2026.
  3. ↑ "Eve Goodman". Gwefan Spotify. Cyrchwyd 24 Medi 2026.
  4. ↑ "About". Gwefan Eve Goodman. Cyrchwyd 24 Medi 2026.
  5. ↑ "Eve Goodman". Last FM. Cyrchwyd 24 Medi 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]