Neidio i'r cynnwys

Esther Rantzen

Oddi ar Wicipedia
Esther Rantzen
Ganwyd22 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Berkhamsted Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 2026 Edit this on Wikidata
o canser yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
Ardal Fforest Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu, awdur, cyflwynydd, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodDesmond Wilcox Edit this on Wikidata
PlantRebecca Wilcox Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, OBE, CBE Edit this on Wikidata

Newyddiadurwraig a chyflwynydd teledu o Loegr oedd y Fonesig Esther Louise Rantzen (22 Mehefin 1940 – 30 Medi 2026). Roedd hi'n fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd y gyfres deledu BBC That's Life! o 1973 hyd 1994. Sefydlodd yr elusen Childline, llinell gymorth i blant.

Ganwyd Rantzen yn Berkhamsted, yn ferch i Katherine Flora Rantzen (ganwyd Leverson, o deulu cefnog a dylanwadol[1]) a Henry Barnato Rantzen, oedd o dras Iddewig.[2] Cafodd ei haddysg yn Efrog Newydd hyd 1952, a wedyn yn Ysgol Golegol Gogledd Llundain. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen.

Cafodd ei phenodi’n OBE am ei gwasanaethau i ddarlledu ym 1991 ac yn CBE am ei gwasanaethau i blant yn 2006, ac yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2015 fe’i gwnaed yn Fonesig am ei gwasanaethau i blant a phobl hŷn drwy Childline a The Silver Line.

Ar ôl hyfforddi mewn sgiliau ysgrifenyddol,[3] dechreuodd Rantzen ei gyrfa deledu yn yr adran cynllunio rhaglenni, yna cafodd ei swydd gynhyrchu gyntaf yn gweithio fel ymchwilydd[3] ar raglen ddychan hwyr y nos BBC1 BBC-3 (1965–1966).[4]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ym 1968, dechreuodd Rantzen berthynas â Desmond Wilcox, pennaeth ei hadran yn y BBC a oedd yn ŵr i'w ffrind hi, Patsy.[5] Wedi rhai blynyddooedd, cychwynodd y ddau gyd-fyw, a penderfynodd y BBC symud rhaglen That's Life allan o adran Wilcox. Gwrthododd Patsy ysgaru ei gŵr am rai blynyddoedd ond cytunodd i wneud hynny wedi i Rantzen feichiogi. Ar ôl i Rantzen a Wilcox briodi ym mis Rhagfyr 1977, cafodd hi ei symud yn ôl i'w adran ef.

Cafodd Rantzen a Wilcox dri o blant. Bu farw Wilcox yn 2000.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Esther Rantzen: The moment I discovered the shocking truth about my". The Standard (yn Saesneg). 2012-04-11. Cyrchwyd 2026-10-05.
  2. ↑ Gloger, Dana (25 Gorffennaf 2008). "Esther Rantzen: Older and wiser". The JC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Medi 2026. Cyrchwyd 18 Chwefror 2021.
  3. 1 2 "Dame Esther Rantzen Honorary Fellow". Some.ox.ac.uk. 6 Gorffennaf 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 September 2026. Cyrchwyd 23 Ebrill 2023.
  4. ↑ "Dame Esther Rantzen dies aged 86 after battle with lung cancer". The Independent (yn Saesneg). 30 Medi 2026. Cyrchwyd 30 Medi 2026.
  5. ↑ Rantzen, Esther (2001). Esther, The Autobiography (yn Saesneg). Llundain: BBC Worldwide. t. 233. ISBN 0-563-53741-8.