Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Crëwyd swyddi Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, gydag etholiadau yn cael eu cynnal am y tro cyntaf ar 15 Tachwedd 2012. Cynrychiolydd wedi ei ethol yw'r comisiynydd, sydd â chyfrifoldeb dros gadarnhau bod yr heddlu yn gweithredu yn effeithlon ac effeithiol mewn ardal blismona; maent yn disodli'r awdurdodau heddlu. Nid yw hyn yn effeithio ar Lundain sydd â threfniadau ar wahân, na'r Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'r plismona wedi cael ei ddatganoli, a'r cyfrifoldeb gyda Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon mewn swydd debyg.
| Enghraifft o: | swydd |
|---|---|
| Math | police commissioner |
| Rhagflaenydd | police authority |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Ni ddylid cymysgu swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gyda'r rheng heddwas "Comisiynydd", a ddelir gan y prif swyddog heddlu yn yr Heddlu Metropolitan a Heddlu Dinas Llundain (sy'n gwasanaethu'r ddwy ardal blismona yn Llundain).
Cefndir
golyguYn ymgyrch etholiad cyffredinol 2010, roedd y Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnwys cynlluniau yn eu maniffesto, er mwyn disodli ac aildrefnu'r awdurdodau heddlu, gyda'r ddwy blaid yn codi eu pryderon ynglŷn â'r diffyg atebolrwydd a oedd i'w weld gyda'r awdurdodau i'r cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu. Yn dilyn yr etholiad, yn ôl Cytundeb clymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol:
| “ |
We will introduce measures to make the police more accountable through oversight by a directly elected individual, who will be subject to strict checks and balances by locally elected representatives.[1] |
” |
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
golyguCymru
golygu| Ardal | Plaid | Comisiynydd | 5 Mai 2016 | |
|---|---|---|---|---|
| Heddlu Dyfed-Powys | Plaid Cymru | Dafydd Llywelyn | 5 Mai 2016 | |
| Heddlu Gwent | Y Blaid Lafur | Jeffrey Cuthbert | 5 Mai 2016 | |
| Heddlu Gogledd Cymru | Plaid Cymru | Arfon Jones | 5 Mai 2016 | |
| Heddlu De Cymru | Y Blaid Lafur | Alun Michael | 5 Mai 2016 | |
| Ardal | Plaid | Comisiynydd | Etholwyd | |
|---|---|---|---|---|
| Heddlu De Cymru | Llafur | Alun Michael | 15 Tachwedd 2012 | |
| Heddlu Dyfed-Powys | Ceidwadwyr | Christopher Salmon | 15 Tachwedd 2012 | |
| Heddlu Gogledd Cymru | Annibynnol | Winston Roddick | 15 Tachwedd 2012 | |
| Heddlu Gwent | Annibynnol | Ian Johnson | 15 Tachwedd 2012 | |
Lloegr
golygu| Ardal | Plaid | Comisiynydd | Etholwyd | |
|---|---|---|---|---|
| Heddlu Avon a Gwlad yr Haf | Sue Mountstevens | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Bedford | Olly Martins | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Caint | Annibynnol | Ann Barnes | 15 Tachwedd 2012 | |
| Heddlu Cleveland | Barry Coppinger | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Cumbria | Richard Rhodes | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Derby | Alan Charles | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu De Swydd Efrog | Alan Billings | 30 Hydref 2014 | ||
| Heddlu Dinas Llundain | Nid oes Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn hytrach mae Corfforaeth Dinas Llundain yn gweithredu fel y corff plismona. | |||
| Heddlu Dorset | Martin Underhill | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Dyffryn Tafwys | Anthony Stansfield | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Dyfnaint a Chernyw | Tony Hogg | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Durham | Ron Hogg | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Essex | Nicholas Alston | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Gaer | John Dwyer | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Gaergrawnt | Graham Bright | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Gaerhirfryn | Clive Grunshaw | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Gaerloyw | Martin Surl | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Gaerlŷr | Clive Loader | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Hertford | David Lloyd | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Gogledd Swydd Efrog | Julia Mulligan | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Gorllewin Mercia | Bill Longmore | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Gorllewin y Canolbarth | David Jamieson | 21 Awst 2014[2] | ||
| Heddlu Gorllewin Swydd Efrog | Mark Burns-Williamson | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Hampshire | Simon Hayes | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Humberside | Mathew Grove | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Manceinion Fwyaf | Tony Lloyd | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Lincoln | Alan Hardwick | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Merswy | Llafur | Jane Kennedy | 15 Tachwedd 2012 | |
| Heddlu Metropolitan | Nid oes Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn hytrach mae Maer Llundain yn gweithredu'r swyddogaeth mewn effaith.[3] | |||
| Heddlu Norfolk | Stephen Bett | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Northampton | Adam Simmonds | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Northumbria | Llafur | Vera Baird | 15 Tachwedd 2012 | |
| Heddlu Swydd Nottingham | Paddy Tipping | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Stafford | Matthew Ellis | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Suffolk | Tim Passmore | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Surrey | Kevin Hurley | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Sussex | Katy Bourne | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Swydd Warwick | Ron Ball | 15 Tachwedd 2012 | ||
| Heddlu Wiltshire | Ceidwadwyr | Angus Macpherson | 15 Tachwedd 2012 | |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "The Coalition: our programme for government" (PDF). UK Cabinet Office Website. Cyrchwyd 28 Medi 2011.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-22. Cyrchwyd 2015-11-03.
- ↑ Police Reform and Social Responsibility Act 2011 (Section 3). UK Legislation. Adalwyd ar 28 Medi 2011.
Dolenni allanol
golygu- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Y Comisiwn Etholiadol Archifwyd 2012-11-08 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan swyddogol Police Crime Commissioner Archifwyd 2012-10-27 yn y Peiriant Wayback (Saesneg yn unig)
- "Police and Crime Commissioners", y Swyddfa Gartref Archifwyd 2012-11-16 yn y Peiriant Wayback (Saesneg yn unig)