Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Caerdydd
Mae gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Caerdydd (Saesneg: Cardiff Queen Street) yn un o'r gorsafoedd rheilffordd prysuraf yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Mae'r orsaf yn un o 20 gorsaf reilffordd yn y ddinas, a 2 yng nghanol y ddinas ynghyd â Chaerdydd Canolog. "Caerdydd Heol y Frenhines" yw'r enw a ddefnyddir gan Trafnidiaeth Cymru ond fel 'Gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd' neu 'Gorsaf Heol y Frenhines' y cyfeirir ati gan sawl corff swyddogol arall.[1] Enwir yr orsaf ar ôl Heol y Frenhines, sy'n stryd siopa fawr yng nghanol Caerdydd.
| Math | gorsaf reilffordd |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1840 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.4819°N 3.1703°W |
| Cod OS | ST188765 |
| Rheilffordd | |
| Nifer y platfformau | 5 |
| Côd yr orsaf | CDQ |
| Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Mae bellach yn ganolbwynt i rwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd - system reilffordd sydd yn gwasanaethu Caerdydd, Bro Morgannwg, Penybont-ar-Ogwr a Chymoedd y De. Dyma'r unig orsaf sydd yn cysylltu â gorsaf Bae Caerdydd. Lleolir yr orsaf ar ochr ddwyreiniol Canol Caerdydd gyferbyn â chanolfan siopa ac adloniant y Capitol.
Adfywio
golyguFel rhan o gynllun adfywio gwerth £200 miliwn i roi hwb i cynhwysedd trenau yng Nghaerdydd a'r ardaloedd cyfagos, Mae Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd yn mynd i gael ei ailddatblygu o fis Mehefin 2014, a Ebrill 2013 yn y drefn honno.
Bydd y gorsafoedd yn debyg o ran ddyluniad, yn cynnwys paneli llechi, brics llwyd, toeau arddull-pafiliwn, ffenestri mawr ac arwyddion dur di-staen. Yng Nghaerdydd Canolog bydd mynedfa ddeheuol deulawr newydd a neuadd tocyn o dan gynlluniau a gyflwynwyd gan Network Rail. Bydd wythfed platfform yng Nghaerdydd Canolog, a bydd pedwerydd a pumed yn Heol y Frenhines Caerdydd yn cael eu gosod. Ar ôl gorffen, bydd nifer y trenau sy'n rhedeg i'r Cymoedd cynyddu o 12 yr awr i 16 yr awr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Er enghraifft: Cynulliad Cenedlaethol Cymru[dolen farw]; Gwefan y Parciau Cenedlaethol Archifwyd 2011-03-03 yn y Peiriant Wayback; Y Gwasanaeth Apelio[dolen farw]; Bwrdd Croeso Cymru[dolen farw]; Llyfrgell Genedlaethol Cymru[dolen farw]; Neuadd Dewi Sant Archifwyd 2010-12-19 yn y Peiriant Wayback.
